Mae pwyllgor yn y Cynulliad wedi galw am gymryd camau sylweddol i wella dysgu Cymraeg ail iaith yn ysgolion Cymru.

Maen nhw’n canmol rhai datblygiadau newydd ond yn dweud hefyd nad yw’r sefyllfa wedi newid llawer ers adroddiad tebyg wyth mlynedd yn ôl.

Ac mae eu hadroddiad yn dilyn cyfres o adroddiadau beirniadol iawn gan y corff archwilio Estyn – mae’r prif archwilydd wedi awgrymu mai dyma’r pwnc sy’n cael ei ddysgu waetha’ yng Nghymru.

‘Pryderu’

“Rydym yn pryderu bod ein casgliadau’n cyd-fynd ag adroddiad tebyg a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu, Gareth Jones.

“Rydym yn gobeithio y bydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion parhaus hyn i sicrhau bod Cymru ar y trywydd iawn i greu Cymru gwbl ddwyieithog.”

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod dwyieithrwydd yn dod yn rhan o ethos ysgolion a bod angen cyrsiau mwy dwys i roi sgiliau dwyieithog i ddisgyblion ar gyfer byd gwaith.

Maen nhw hefyd wedi canmol gwaith gan arloeswyr fel Ysgol Uwchradd Treorci yn y Rhondda a phrosiect Geiriau Bach ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant sy’n hyfforddi athrawon di-Gymraeg i ddysgu’r iaith i blant bach.

Yr argymhellion

Mae yna 22 o argymhellion i gyd. Dyma’r prif rai:

• Angen diffiniad gwell o beth yw ysgolion dwyieithog er mwyn cael cysondeb ac angen asesu sgiliau iaith plant yn gynharach.

• Angen ystyried gwneud Cymraeg yn bwnc craidd ar gyfer TGAU, gyda phwyslais ar y cwrs ail iaith llawn.

• Angen datblygu cyrsiau dwys ar ôl 16 oed i baratoi pobol ifanc i ddefnyddio Cymraeg yn y man gwaith.

• Angen cefnogi ac annog athrawon a staff cynorthwyol di-Gymraeg i fynd ar gyrsiau iaith.
• Angen arweiniad i ddatblygu ‘ethos ddwyieithog’ a gefeillio rhwng ysgolion Cymraeg a Saesneg.

• Angen rhagor o ddeunyddiau amrywiol, gan gynnwys rhaglenni teledu a rhoi rhagor o gyfle i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

• Angen gwell pontio rhwng cyfnod cynradd ac uwchradd ac ymchwil i barhad yr iaith o un cyfnod allweddol i’r llall.

Llun: Gareth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor