Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi dechrau trafodaethau er mwyn denu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr Uefa i Gymru, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones.
Dywedodd bod swyddogion eisoes wedi dechrau trafod gydag arlywydd Uefa, Michel Platini, ynglŷn â chynnal y digwyddiad yng Nghaerdydd.
Doedd dim manylion pellach eto ond dywedodd Ieuan Wyn Jones eu bod nhw’n “credu’n gryf y bydd hi’n bosib cynnal ffeinal Uefa yng Nghymru”.
Roedd yn siarad yng Nghaerdydd cyn cyngerdd agoriadol y Cwpan Ryder. Roedd hwnnw’n cynnwys enwogion o Gymru gan gynnwys yr actores Catherine Zeta-Jones, a’r cantorion Katherine Jenkins a Shirley Bassey.
Gobaith Llywodraeth y Cynulliad yw y bydd Cwpan Ryder, sy’n dechrau yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd yfory, yn rhoi’r cyfle i Gymru gynnal mwy o ddigwyddiadau chwaraeon mawr dros y degawd nesaf.
Dywedodd yr arbenigwr PR Mike Lee, oedd yn rhan o gais Llundain i gynnal Gemau Olympaidd 2012, y bydd cynnal y Cwpan Ryder yn hwb i Gymru at y dyfodol.
“Erbyn pnawn dydd Sul, pan mae’r Cwpan Ryder wedi dod i ben, fe fydd gan Gymru ddadl gref iawn o blaid cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y dyfodol,” meddai.
Werth y pris?
Mae cynnal y Cwpan Ryder eisoes wedi costio £40 miliwn i Gymru dros gyfnod o 10 mlynedd, ac mae mwy na hynny wedi ei wario ar wella trafnidiaeth mewn pryd ar gyfer y twrnamaint.
Ond dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, bod cynnal y bencampwriaeth golff “yn cyfiawnhau’r pris”, hyd yn oed mewn dirwasgiad.
“Mae hyn wedi ei gynllunio ers 10 mlynedd ac felly mae rhan o’r gost £40 miliwn yn cynnwys rhaglenni sy’n annog mwy o bobol i chwarae golff a phethau eraill,” meddai.
Ychwanegodd bod golff werth £35 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a bod y ffigwr hwnnw ar ben ei hun “yn cyfiawnhau Cwpan Ryder”.
“Mae hynny cyn i ni ddechrau ystyried enw da a delwedd Cymru o gwmpas y byd.
“Mae o’n eithaf rhad am y pris hwnnw. Roedd o’n gambl ond roedd o werth y pris mae’n siŵr, ar ôl ystyried popeth.”
(Llun: Cwpan y Pencampwyr)