Mae twristiaeth golff wedi cynyddu yng Nghymru ers y newyddion bod y Cwpan Ryder ar ei ffordd yma.

Fe fydd seremoni agoriadol y gystadleuaeth yn digwydd yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw ac, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae’n gyfle “unwaith mewn oes” i roi’r wlad ar y map.

Mae’r Llywodraeth yn dweud bod cynnydd o 32% wedi bod rhwng 2004 a 2009 yn nifer yr ymwelwyr sy’n dod i Gymru i chwarae golff.

Y llynedd, medden nhw, fe ddaeth 184,000 o chwaraewyr gan wario tua £34.7 miliwn tra oedden nhw yma.

“Bydd miliynau o bobol yn gwylio’r digwyddiad yma o amgylch y byd ac mae’r math yna o sylw yn amhrisiadwy i ni wrth gynyddu ein henw dramor o ran busnes, buddsoddi mewnol a thwristiaeth,” meddai Carwyn Jones.

“Ddaw pethau ddim i ben unwaith y bydd yr ergyd ola’ wedi’i gwneud. Mae yna etifeddiaeth wych o gynnal y digwyddiad yma – i golff, i’r economi ac i broffil Cymru fel cenedl.”

Y cyngerdd croeso

Roedd y Prif Weinidog yn Stadiwm y Mileniwm neithiwr i weld rhai o sêr enwoca’ Cymru’n perfformio mewn cyngerdd croeso.

Fe ddaeth y tair difa Gymreig – Shirley Bassey, Katherine Jenkins a Catherine Zeta Jones – at ei gilydd ar y llwyfan ac roedd y Tywysog Charles yno hefyd ar ôl cael taith o amgylch y cwrs yn y Celtic Manor.

Fe ganmolodd y trefnwyr am geisio lleihau ôl-troed carbon y digwyddiad lle mae tref fechan o adeiladau wedi eu codi yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Fe gafodd glywed hefyd fod gŵr Catherine Zeta Jones, yr actor Michael Douglas, yn ymateb yn dda i driniaeth ar gyfer y canser sydd wedi ei atal rhag dod i Gymru i weld y gystadleuaeth.

Llun: Katherine Jenkins, Shirley Bassey a Catherine Zeta Jones yn y cyngerdd croeso (Gwifren PA)