Roedd dyn adawodd bom mewn car yn Times Square, Efrog Newydd wedi datgelu cynllun i ffrwydro bom arall wythnos yn ddiweddarach, meddai’r erlynwyr yn ei achos llys.

Yn ôl yr erlynwyr roedd Faisal Shahzad, sydd o Bacistan yn wreiddiol, wedi dweud mai’r nod gyda’r ffrwydryn cyntaf oedd lladd o leiaf 40 o bobol ac roedd o wedi dewis amser prysur er mwyn gosod y ffrwydryn.

Mae’r dystiolaeth wedi ei gynnwys mewn ffeil a fydd yn cael ei ystyried gan y gan y barnwr fydd yn dedfrydu Faisal Shahzad ar 5 Hydref.

Mae’r erlynwyr yn dadlau ei fod o wedi “bwriadu taro at galon Efrog Newydd” ac y dylai gael ei ddedfrydu i oes yn y carchar.

Ychwanegodd yr erlynwyr nad oedd Faisal Shahzad, 30, sy’n dad i ddau, wedi dangos unrhyw edifeirwch wrth bledio’n euog ar 21 Mehefin.

“Roedd o wedi siarad gyda balchder ynglŷn â beth oedd o a’i gyd-gynllwynwyr wedi ei wneud,” meddai’r erlynwyr yn y ffeil.

Mae tystiolaeth hefyd yn cynnwys fideo 40 munud sy’n dangos Faisal Shahzad yn saethu dryll peiriant ym mynyddoedd Pacistan.

“Rydw i wedi bod eisiau ymuno â jihad fy mrodyr ers 9/11,” meddai Faisal Shahzad yn y fideo. “Rydw i eisiau ymosod y tu mewn i America.”

Cafodd Faisal Shahzad ei arestio deuddydd ar ôl i’r car yr oedd o wedi ei lenwi gyda ffrwydron fethu a thanio ar 1 Mai.