Mae’r pôl piniwn diweddaraf ITV ar gyfer etholiad y Cynulliad yn awgrymu bod y Ceidwadwyr ar y blaen i Blaid Cymru am y tro cyntaf eleni.

Yn ôl y pôl piniwn holodd 1088 o bobol rhwng 27 a 29 Medi, byddai 19% yn pleidleisio dros Blaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad a 22% yn cefnogi’r Ceidwadwyr.

Mae disgwyl i’r etholiad gael ei chynnal ar 5 Mai’r flwyddyn nesaf.

Mae’r Blaid Lafur yn bell ar y blaen ar 44%, o’i gymharu â 32% ym mis Mai eleni.

Dros yr un cyfnod mae cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng o 20% i 11%.

Hwb i Ed

Mae pôl piniwn ITV hefyd yn awgrymu bod Ed Miliband yn ddewis poblogaidd yng Nghymru fel arweinydd y Blaid Lafur.

Dywedodd 13% eu bod nhw’n fwy tebygol o bleidleisio dros y Blaid Lafur gydag Ed Miliband wrth y llyw, o’i gymharu gydag 9% fyddai’n fwy tebygol o wneud hynny gyda David Miliband yn arweinydd.

Roedd nifer yr ymatebwyr oedd yn cefnogi mwy o bwerau i’r Cynulliad yn y refferendwm y flwyddyn nesaf wedi cynyddu 1% i 49% ers y pôl piniwn ddiwethaf diwedd mis Awst.

Disgynnodd cefnogaeth yr ymgyrch ‘Na’ 2% i 30% yn yr un cyfnod.