Mae AC wnaeth droi cefn ar Blaid Cymru er mwyn ymuno â’r Ceidwadwyr wedi ennill gwobr gafodd ei rhoi i’r Fam Teresa.
Derbyniodd Mohammad Asghar y wobr, Glory of India, mewn seremoni fawreddog yn Llundain.
Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu gan Gymdeithas Cyfeillgarwch Rhyngwladol India, corff sy’n ceisio gwella’r cysylltiad rhwng India a phobol o dras Indiaidd drwy’r byd.
Cafodd Mohammad Asghar, sydd wedi cynrychioli De Ddwyrain Cymru yn y Cynulliad ers mis Mai 2007, y wobr am fod yn “weithgar wrth wella’r cysylltiadau rhwng India a Phrydain”.
Mae cyn enillwyr yn cynnwys y Fam Teresa a sawl seren Bollywood.
“Maen fraint ac anrhydedd cael derbyn y wobr yma,” meddai Mohammad Asghar.
“Rydw i’n falch iawn o’r rhan ydw i wedi ei chwarae wrth adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng India a Chymru. Mae gyda ni nifer o bethau’n gyffredin, gan gynnwys ein parch a goddefgarwch crefyddol.
“Rydw i’n ddiolchgar i Gymdeithas Cyfeillgarwch Rhyngwladol India am roi’r wobr yma i fi ac am glodfori’r gwaith ydw i wedi ei wneud ar ran cymunedau De Ddwyrain Cymru.”