Datgelwyd heddiw bod y gwasanaethau cudd wedi taro ar gynllun gan derfysgwyr Islamaidd i ymosod ar Brydain.

Mae’r bygythiad yn un “o gyfres” o gynlluniau terfysgol sydd wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Roedd y cynllun yn debyg i’r ymosodiad ar Mumbai, India, dwy flynedd yn ôl, ac roedd yna gynlluniau tebyg ar gyfer Ffrainc a’r Almaen.

Cafodd 170 o bobol eu lladd yn ystod yr ymosodiad gan 10 o bobol gyda drylliau ym Mumbai ym mis Tachwedd 2008. Gwrthryfelwyr o Bacistan sydd wedi cael y bai.

Neithiwr cafodd y Twr Eiffel ym Mharis ei gwagio yn dilyn bygythiad i’w ffrwydro. Dyna’r ail fygythiad i’r twr mewn pythefnos.

“Mae yna gyfres o weithredoedd terfysgol yr ydan ni wedi bod yn mynd i’r afael gyda nhw dros yr wythnosau diwethaf, ac un neu ddau sydd wedi dal ein sylw ni,” meddai’r llefarydd.

“Serch hynny dydyn ni ddim wedi penderfynu codi lefel y bygythiad tuag at Brydain.”

Mae’r bygythiad yn erbyn Prydain yn “ddifrifol” ar hyn o bryd, yn ôl y Swyddfa Gartref. Ond doedden nhw ddim yn gallu trafod materion diogelwch, medden nhw.