Pobol rhwng 35 a 44 oed yw’r mwyaf digalon ym Mhrydain, yn ôl arolwg newydd.
Yn ôl cynghorwyr Relate, mae ffwdan yn y gwaith, problemau ariannol ac unigrwydd yn golygu mai pobol yn y grŵp oedran yma yw’r mwyaf anhapus mewn cymdeithas.
Roedd 40% o bobol yr oed yma’n cwyno bod eu partneriaid wedi bod yn anffyddlon a 21% yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig.
Dywedodd Relate bod yr arolwg yn dangos bod yr ‘argyfwng canol oed’, sydd fel arfer yn effeithio ar bobol rhwng 40 a 50 oed, wedi dechrau effeithio ar bobol iau.
Mae bron i draean o bobol 35 i 44 oed yn dweud eu bod nhw wedi gadael swydd oherwydd perthynas anodd gyda chydweithiwr.
Roedd tua’r un faint yn meddwl bod eu perthynas gyda’u teulu yn dioddef am eu bod nhw’n gweithio gormod o oriau.
Roedd chwarter eisiau treulio mwy o amser gyda’u teuluoedd, a 23% eisiau treulio mwy o amser gyda’u ffrindiau.
Dywedodd pennaeth Relate, Claire Tyler, bod cynghorwyr y cwmni yn gweld mwy o bobol 35 i 44 oed nag unrhyw oedran arall.
“Yn draddodiadol rydyn ni’n cysylltu argyfwng canol oed gyda phobol yn eu 40au hwyr a’u 50au, ond mae’r adroddiad yn datgelu bod pobol yn cyrraedd y cyfnod yma’n gynt na’r disgwyl,” meddai.
“Dyna pryd y mae bywyd yn mynd yn galed – rydach chi’n dechrau teulu, mae’r pwysau yn y gwaith yn anferth ac mae pryder ynglŷn ag arian yn dechrau taro.”