Daeth gobaith newydd i 33 o fwynwyr sydd wedi eu caethiwo o dan y ddaear yn Chile heddiw, gydag awgrymiadau y byddan nhw’n cael eu hachub mis yn gynnar.

Gwaeddodd perthnasau’r dynion “Viva Chile!” a cofleidio ei gilydd wrth i swyddogion gyhoeddi bod y dril sy’n torri twll yn y graig yn gweithio dwywaith yn gynt na’r disgwyl.

Ond dywedodd y swyddogion na ddylen nhw lawenhau gormod ac fe allai bob math o broblemau newydd ddod i’r amlwg cyn mis Tachwedd.

Os ydi’r dril sydd wedi cyrraedd 984 troedfedd i mewn i’r graig yn dal i symud ymlaen ar yr un cyflymder fe allai gyrraedd y mwynwyr erbyn tua 4 Hydref.

“R’yn ni’n hapus iawn gyda’r dyfnder y maen nhw wedi ei gyrraedd. Mae angen y math yna o agwedd arnom ni,” meddai Alberto Segovia. Mae ei frawd Dario wedi bod yn sownd yn y fwynfa ers 54 diwrnod.

Mae’r llywodraeth yn adeiladu ysbyty dros dro a llwyfan anferth ar wyneb y fwynfa fel bod y cyfryngau yn gallu gwylio’r mwynwyr yn cael eu hachub.