Taflodd picedwyr wyau at fysiau ac atal tryciau rhag mynd heibio wrth i rai o weithwyr Sbaen gychwyn streic gyffredinol heddiw.

Dyma’r streic gyffredinol cyntaf yn y wlad ers 2002, wrth i weithwyr ddangos eu hanhapusrwydd gyda chynllun y llywodraeth i dorri’r diffyg ariannol.

Mae llywodraeth sosialaidd y wlad yn gobeithio osgoi ffawd debyg i’r Wlad Groeg wrth i’r diffyg ariannol chwyddo a nifer y di-waith gynyddu i 20%.

Mae eu mesurau i leihau’r diffyg ariannol yn cynnwys torri cyflogau gweithwyr sifil, rhewi pensiynau a diwygio’r farchnad lafur er mwyn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau ddiswyddo gweithwyr.

Y streicio

Roedd rhai streicwyr yn eistedd y tu allan i garej bysys yn Madrid er mwyn atal gyrwyr rhag symud y bysys oddi yno. Dywedodd Radio Cenedlaethol Sbaen fod 11 o bobol wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad gyda’r heddlu.

“Rydym ni yma er mwyn esbonio’r streic i’n cydweithwyr a’u hannog nhw i gymryd rhan a pheidio gweithio,” meddai un o’r streicwyr, Mercedes Ramirez.

Mae casglwyr biniau sbwriel wedi ymuno â’r streic hefyd, gan adael bagiau biniau heb eu casglu yn y strydoedd.

Roedd protestwyr hefyd wedi atal tryciau rhag mynd a physgod, llysiau, cig a ffrwythau i brif farchnadoedd Madrid, Barcelona a dinasoedd mawr eraill.

Cafodd papurau newydd eu heffeithio hefyd, wrth i argraffiadau dydd Mercher gynnwys llai o dudalennau.

Mae’r undebau wedi dweud eu bod nhw’n mynd i atal awyrennau rhag teithio i mewn ac allan o’r wlad hefyd ond bore ma doedd dim protestwyr i’w gweld ym Maes Awyr Barajas Madrid.