Mae cyn brif weinidog Gwlad yr Iâ yn wynebu achos llys am ei ran wrth achosi trafferthion ariannol y wlad.

Ef fyddai’r arweinydd gwlad cyntaf yn i gael ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am achosi’r argyfwng ariannol byd-eang.

Ar ôl ddadl ffyrnig, pleidleisiodd ASau 33-30 o blaid cyfeirio’r cyhuddiadau yn erbyn Geir Haarde at y llys gan honni ei fod o wedi methu ag atal chwalfa ariannol Gwlad yr Iâ yn 2008.

Mae Geir Haarde yn wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar os ydi o’n euog. Ond mae o hefyd yn bosib y bydd y llys yn gwrthod y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Dyw cyn arweinydd y Blaid Annibyniaeth ddim yn aelod seneddol erbyn hyn, ar ôl rhoi’r gorau iddi’r llynedd yn dilyn protestio yn y wlad a thriniaeth am ganser.

“Fe wna i ymateb i’r holl gyhuddiadau o flaen y llys ac fe fyddai’n cyfiawnhau popeth,” meddai Geir Haarde, 59, wrth ddarlledwr RUV Gwlad yr Iâ.

“Does gen i ddim i’w ofni. Mae’r cyhuddiad yn ymylu ar erledigaeth wleidyddol.”

Roedd Gwlad yr Iâ, ynys gyda phoblogaeth o 320,000, yn gyfoethog iawn cyn yr argyfwng economaidd ond ers hynny mae diweithdra wedi codi yn gyflym.