Watford 2 Abertawe 3

Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi canmol ysbryd ei dîm am sicrhau buddugoliaeth yn erbyn ei gyn glwb Watford yn Vicarage Road.

Er mai hon oedd buddugoliaeth gynta’r Elyrch oddi cartre’ y tymor yma, fe wnaethon nhw roi amser caled iddyn nhw eu hunain, gan fynd o 3-0 i 3-2 yn y chwarter awr ola’.

Cyn neithiwr, roedd Watford yn drydydd yn y Bencampwriaeth ac yn gwneud yn dda.

Gôl arall i Sinclair

Fe sgoriodd Scott Sinclair ei chweched gôl mewn pedair gêm i roi’r Elyrch ar y blaen wedi deg munud ac fe ddyblodd Stephen Dobbie fantais yr ymwelwyr wedi hanner awr.

Gydag ugain munud o’r gêm yn weddill fe sgoriodd Frank Nouble ei gôl gyntaf i Abertawe i roi tîm Brendan Rodgers 3-0 ar y blaen.

Ond fe frwydrodd Watford ‘nôl mewn i’r gêm – fe sgoriodd Troy Deeney gyda pheniad cyn i Martin Taylor ychwanegu ail gôl i’r tîm cartref gyda phum munud yn weddill.

Fe gafodd Watford y bêl i’r rhwyd unwaith eto, ond fe gafodd ymdrech John Eustace ei gwrthod oherwydd camsefyll.

‘Gwych – am awr a chwarter’

“Roedden ni’n wych am 75 munud- yn dda iawn yn ymosod ac yn gadarn fel grŵp,” meddai Brendan Rodgers.

“Ar ôl i Watford sgorio gyda 15 munud yn weddill, mae cwestiynau gwahanol yn cael eu gofyn o’r tîm”

“Ond fe wnaethon ni wrthsefyll yr her honno’n dda ac r’yn ni wedi sicrhau buddugoliaeth haeddiannol.”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Abertawe i’r wythfed safle yn y Bencampwriaeth.