Fe fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yn ystyried y ffordd y mae Cymru’n derbyn arian o Lundain.

Roedd angen edrych ar sefyllfa arbennig Cymru a’r ffordd yr oedd yn cael ei thrin o dan Fformiwla Barnett, meddai Ed Miliband.

Mewn cyfweliad gyda Radio Wales, fe ddywedodd y byddai’r blaid yn dechrau ar arolwg o’i pholisïau ac y byddai’r dull o roi arian i Gymru yn rhan o hynny.

Newid y Fformiwla

Yn ystod ymgyrch yr arweinyddiaeth, roedd wedi canmol y Fformiwla am “roi gwasanaeth da” i wledydd Prydain ond heddiw roedd yn cydnabod fod gan Gymru amgylchiadau arbennig.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn dweud bod angen newid y Fformiwla ar ôl i Gomisiwn Holtham awgrymu bod Cymru’n colli tua £300 miliwn y flwyddyn.

Maen nhw bellach yn dadlau tros drefn a fyddai’n cydnabod angen yn hytrach na rhannu arian yn ôl poblogaeth. Mae’r Fformiwla’n delio â gwario ar yr holl feysydd sydd wedi eu datganoli.

Does gan y Llywodraeth yn Llundain ddim bwriad i ailystyried y Fformiwla yn y tymor byr.

‘Rhaid torri rhywfaint’

Roedd gan Ed Miliband rybudd hefyd – y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wynebu toriadau gwario doed a ddêl.

Hyd yn oed pe bai Llafur mewn grym, meddai, fe fyddai’n rhaid cwtogi. Roedd yr anghytundeb rhyngddyn nhw a Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain oherwydd cyflymder a maint y toriadau.

Fe fyddai’n rhaid i Lywodraeth Carwyn Jones benderfynu ar flaenoriaethau, meddai Ed Miliband.

Llun: Ed Miliband yn areithio ddoe (Gwifren PA)