Fe fydd y Gweinidog Treftadaeth yn cael cyfarfod gydag Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan i drafod dyfodol ariannol S4C.
Fe gadarnhaodd Alun Ffred Jones y bydd yn gweld Jeremy Hunt yn ystod Cwpan Ryder ddydd Sadwrn. Roedd wedi anfon llythyr at yr Ysgrifennydd Diwylliant yn gofyn am gyfarfod.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales y byddai’n ceisio rhoi “cyd-destun” i Jeremy Hunt, gan awgrymu nad oedd yn deall y sefyllfa’n iawn wrth ystyried gwneud toriadau sylweddol i arian y sianel deledu.
Roedd S4C yn rhan o strategaeth ehangach ynglŷn â’r iaith Gymraeg, meddai Alun Ffred Jones, ac roedd ASau Ceidwadol wedi addo bod y sianel yn saff yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol.
Y dyfalu yw y gallai’r sianel wynebu toriadau o hyd at £6 miliwn y flwyddyn am bedair blynedd ac fe gafodd ei phenaethiaid amser caled wrth gyfarfod â Jeremy Hunt ynghynt y mis yma.
Anhapusrwydd
Fe awgrymodd hefyd y byddai’n trafod pynciau eraill lle mae polisïau’r Adran Ddiwylliant yn effeithio ar Gymru – fe allai hynny gynnwys y bwriad yn Lloegr i uno’r corff hanesyddol English Heritage gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae yna anhapusrwydd gyda’r bwriad yng Nghymru oherwydd bod y gronfa’n gorff Prydeinig ac English Heritage yn ymwneud â Lloegr yn unig.
Y corff cyfatebol yng Nghymru yw Cadw, sy’n rhan o Lywodraeth y Cynulliad.
Llun: Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn Llundain adeg cyfarfod rhwng Jeremy Junt a phenaethiaid S4C (CIG)