Caerdydd 0 Crystal Palace 0

Roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones yn rhwystredig iawn yn dilyn gêm ddi-sgôr yr Adar Glas yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae tîm y brifddinas yn aros yn ail yn y Bencampwriaeth ond roedd Dave Jones yn anfodlon bod Caerdydd wedi methu â sgorio ac agor y gêm.

Yr asgellwr Chris Burke a gafodd y cyfle gorau i sgorio yn gynnar i Gaerdydd ond fe arbedodd golwr yr ymwelwyr, Julian Speroni, yn wych i atal ymdrech yr Albanwr.

Caerdydd oedd y tîm cryfa’ am rannau helaeth o’r gêm ond Crystal Palace a gafodd gyfle gorau’r ail hanner gyda golwr Caerdydd, Tom Heaton, yn gwneud yn dda i atal cynnig gan chwaraewr canol cae Cymru, Andy Dorman.

Barn Dave Jones

“Roedden nhw wedi dod i wrthymosod ac roedden ni wedi methu cael y bêl i mewn y tu ôl iddyn nhw,” meddai Dave Jones. “Roedd cyflymder ein chwarae’n undonog ac roedd angen i ni symud y bêl yn gyflymach.

“Roedd yna ddigon o chwaraewyr ar y cae gyda’r gallu i ddod o hyd i fylchau yn yr amddiffyn. Ond roedden nhw’n rhwystredig ac yn parhau i chwarae trwy’r canol pan ddylen nhw fod wedi lledu’r bêl”

“Fe gafodd Chris Burke y cyfle yn yr hanner cyntaf i sgorio a phe bai honna wedi canfod cefn y rhwyd fe fyddai chwarae Crystal Palace wedi agor lan ychydig.”

Methu cau’r bwlch

Dyma oedd pwyntiau oddi cartref cyntaf y tymor i Crystal Palace, ac fe gollodd yr Adar Glas gyfle i gau’r bwlch ar QPR ar frig y tabl – gêm gyfartal ddi-sgôr a gafodd tîm Neil Warnock hefyd yn erbyn Millwall neithiwr.

Mae Caerdydd un pwynt o flaen Norwich a chwech y tu ôl i QPR.