Fe ddaeth yn amlwg bod yr Ysgrifennydd Amddiffyn wedi protestio’n gry’ yn erbyn y bwriad i dorri ar wario ar y lluoedd arfog.
Fe gafodd papur newydd y Daily Telegraph afael ar lythyr gan Liam Fox at y Prif Weinidog yn rhybuddio y byddai “canlyniadau difrifol” os bydd torri sylweddol yn ystod cyfnod o ryfel.
Mae’n dweud y byddai gallu gwledydd Prydain i ymateb i rai amgylchiadau rhyngwladol yn cael eu heffeithio ac y byddai’r toriadau’n gwneud drwg i ysbryd y lluoedd eu hunain.
Roedd y llythyr wedi ei anfon at David Cameron cyn iddo gadeirio cyfarfod o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol i drafod y toriadau posib.
‘Ymchwiliad’
Mae Liam Fox yn dweud ei fod yn flin iawn bod y llythyr wedi mynd yn gyhoeddus a’i fod wedi sefydlu ymchwiliad i ddal pwy bynnag oedd yn gyfrifol.
Ond fe fydd cyhoeddi’r wybodaeth yn cryfhau ei law ef yn y trafodaethau ac mae’n ymddangos bod y Fyddin eisoes wedi cael sicrwydd na fydd yn gorfod torri ar niferoedd milwyr wrth iddyn nhw ymladd yn Afghanistan.
Roedd llythyr Liam Fox hefyd yn rhybuddio’r Prif Weinidog y gallai’r Llywodraeth golli cefnogaeth o ganlyniad i doriadau, gydag ymateb “creulon” gan y wasg, y lluoedd, y blaid Geidwadol a’r gymuned ryngwladol.
Llun: Yr ymladd yn Afghanistan (AP Photo)