Mae’rr achos llys yn erbyn dau ddyn am lofruddio heddwas milwrol o Gymru wedi ei ohirio – roedd i fod i ddechrau heddiw.
Ar y funud ola’, fe ddaeth yn amlwg na fydd y gwrandawiad yn Irac yn dechrau tan 10 Hydref.
Roedd Tom Keys, 20 oed o Lanuwchllyn, yn un o chwech o’r Capiau Coch a gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan dorf o bobol yn Irac yn 2003.
Fyth ers hynny, mae eu teuluoedd wedi bod yn ymgyrchu i gael cyfiawnder, gyda thad Tom Keys, Reg, yn un o’r mwya’ llafar.
Roedd cwest yn 2006 wedi penderfynu bod y chwech wedi eu lladd yn anghyfreithlon ar ôl cael eu dal gan dyrfa o tua 400 o bobol mewn swyddfa heddlu yn nhref Majar al-Kabir.
Roedd arwyddion bod rhai o’r chwech wedi eu saethu ac eraill wedi eu llusgo a’u curo. Yn ôl y Crwner, fe ddylai fod gan y milwyr well offer ond fyddai hynny ddim wedi eu hachub.
Dau yn y llys
Fe gafodd wyth o bobol eu harestio ym mis Chwefror eleni ond dim ond dau a fydd yn y llys y mis nesa’ – Hamja Hateer a Mussa Ismael al Fartusi.
Mae’r teuluoedd yn parhau i fod yn anhapus – mae rhai yn teimlo bod y gosb bosib yn rhy fach ac, yn hytrach na chael mynd i’r llys, fe fyddan nhw’n gorfod dibynnu ar dderbyn gwybodaeth trwy e-bost.
Llun: Tom Keys