Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio adeiladu ar lwyddiant Cymru i ddenu’r Cwpan Ryder trwy gyhoeddi Strategaeth Digwyddiadau Mawr.

Y bwriad yw rhoi cymorth i wahanol wyliau a digwyddiadau chwaraeon sy’n cyfrannu at economi’r wlad, gan gynnwys yr eisteddfodau mawr a’r Sioe.

Fe fydd trefnwyr digwyddiadau’n ymuno gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, a’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, i lansio’r Strategaeth sy’n gobeithio cynnig ffordd o ddatblygu’r digwyddiadau sy’n bod eisoes a datblygu rhai newydd.

“Mae gynnon ni bellach lwyfan cadarn i adeiladu ar safle Cymru mewn marchnad ryngwladol ffyrnig o gystadleuol,” meddai Ieuan Wyn Jones. “Ryden ni eisio gweld rhagor o dwf ac arloesi.”

Pedwar rhan i’r Strategaeth

Mae’r Strategaeth yn sôn am bedwar gwahanol fath o ddigwyddiad:

• Digwyddiadau mawr – fel gemau prawf criced, neu rownd derfynol Cwpan Heineken ym myd rygbi – digwyddiadau teithiol sy’n gallu cael eu denu i Gymru.

• Digwyddiadau nodweddiadol – fel yr eisteddfodau cenedlaethol a’r Sioe Fawr, sy’n rhoi blas o ddiwylliant Cymru.

• Digwyddiadau Anferth – fel y Cwpan Ryder – digwyddiadau teithiol y mae modd eu denu ond sy’n gofyn am fuddsoddi mawr ymlaen llaw.

• Digwyddiadau twf – yr enghraifft sy’n cael ei rhoi yw Hanner Marathon Caerdydd.

Arian ychwanegol

Mae’r Llywodraeth yn pwysleisio mai cynnig arian ychwanegol fydden nhw, nid arian i gymryd lle’r cyllido sylfaenol.

Roedd yna eisoes Uned Ddigwyddiadau Mawr yn y Llywodraeth, yn cydweithio gyda threfnwyr digwyddiadau, ond dyma’r ymgais gynta’ at Strategaeth ffurfiol i ddatblygu hynny.

“Y Strategaeth Ddigwyddiadau Mawr a fydd yn ein harweiniad i weithredu fel bod y cyfan o Gymru’n elwa o’r diwydiant digwyddiadau,” meddai Ieuan Wyn Jones.

Llun: Un o luniau cyhoeddusrwydd Cwpan Ryder