Mae’r BBC’n honni bod angen gwaith gwella ar fwy na thraean o adeiladau ysgolion Cymru ac y gallai hynny gostio tua £1 biliwn.
Mae newyddiadurwyr wedi casglu gwybodaeth gan ddwy ran o dair o awdurdodau addysg Cymru ac mewn dwy sir – Merthyr Tudful a Sir Benfro – mae pob adeilad yn cael eu hystyried yn “anaddas”.
Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn am arolwg o safon adeiladau ar ôl gwneud ymrwymiad i gael ysgolion sy’n deilwng o’r unfed ganrif ar hugain.
O’r atebion a gafodd y BBC, mae dwy ran o dair o ysgolion cynradd a hanner ysgolion uwchradd mewn cyflwr gwael neu ddrwg ac mewn siroedd fel Caerfyrddin, Ceredigion a Nedd-Port Talbot, mae mwy na hanner yr ysgolion cynradd angen gwaith.
Llun: Roedd yna enghraifft o wella adeiladau ym Merthyr yr wythnos ddiwetha’ wrth i estyniad newydd gael ei agor yn Ysgol Gynradd Cyfarthfa (y llun o wefan yr ysgol)