Mae cyn lysgennad Prydain yn Afghanistan wedi awgrymu heddiw bod rhai o arweinwyr y Taliban wedi blino ar ryfel ac eisiau ceisio cymodi gyda llywodraeth y wlad.

Ond dywedodd Mark Sedwill, sydd bellach yn gynrychiolydd ar ran Nato yn y wlad, ei fod o’n gamgymeriad credu y bydden nhw’n gallu dod i gytundeb yn gyflym.

Ychwanegodd bod y broses o gymodi yn ei ddyddiau cynnar ac na allai ddweud yn gyhoeddus pa aelodau o’r Taliban oedd wedi dangos diddordeb.

“Mae yna arweinwyr blaenllaw sydd fel pe baen nhw wedi blino ar y frwydr ac eisiau ystyried dyfodol o fewn y [broses wleidyddol],” meddai.

“Mae’n anodd dweud ar hyn o bryd sut y bydd hynny’n datblygu.

“Mae yna aelodau uwch o’r gwrthryfel sydd wir yn ceisio estyn llaw – neu dderbyn llaw llywodraeth Afghanistan – ac yn chwilio am fodd o gymodi.”

Dywedodd yr Arlywydd Hamid Karzai ei fod o eisiau trafod gyda gwrthryfelwyr oedd am droi cefn ar drais a therfysg a derbyn cyfansoddiad Afghanistan.

Mae’r Taliban wedi datgan yn gyhoeddus na fydden nhw’n dechrau trafod tan fod milwyr tramor yn gadael y wlad ond mae yna arwyddion bod rhywfaint o drafod eisiau wedi digwydd.

Sefydlwyd cyngor heddwch 70 aelod yn Kabul ddoe er mwyn bwrw ymlaen â’r cynllun i gymodi â gwrthryfelwyr y Taliban.