Mae disgwyl i David Miliband gadarnhau na fydd yn ymgeisio am le yng Nghabinet ei frawd ar ôl cael ei weld yn beirniadu ei araith yn gyhoeddus.

Daeth i’r amlwg neithiwr bod sianel ITV News wedi dal David Miliband yn ymateb i ddatganiad Ed Miliband bod Rhyfel Irac yn “anghywir” yn ystod ei araith gyntaf yn arweinydd y blaid.

Roedd David Miliband wedi troi at ddirprwy arweinydd y blaid, Harriet Harman, gan ofyn: “Pam ydych chi’n cymeradwyo? Fe wnaethoch chi bleidleisio dros [y rhyfel].”

“Rydw i’n cymeradwyo am mai ef yw’r arweinydd. Rydw i’n ei gefnogi,” oedd ymateb Harriet Harman.

Troi cefn

Roedd sïon o’r gynhadledd ym Manceinion dros y dyddiau diwethaf wedi awgrymu na fyddai David Miliband yn cynnig am le yng nghabinet yr wrthblaid ar ôl colli’r ras i arwain y blaid.

Daeth effaith y gystadleuaeth ar y teulu i’r amlwg ddydd Llun pan gafodd gwraig David Miliband, Louise, ei gweld yn crio wrth i’w gŵr draddodi araith yn galw ar y blaid i uno y tu ôl i Ed Miliband.

Penderfynodd Ed Miliband droi ei gefn ar y llywodraeth Lafur flaenorol yn ei araith, gan feirniadu ffioedd dysgu, y modd diofal y cafodd banciau eu rheoli, a record economaidd Gordon Brown.

Ychwanegodd na fyddai’n cefnogi streiciau anghyfrifol gan yr undebau, ond bod toriadau arfaethedig David Cameron yn “ddiflas” ac “anghyfrifol”.