Fe fydd y Gweilch yn dechrau eu hymgyrch am y Cwpan Heineken yn erbyn un o’r timau sy’n newydd i’r gystadleuaeth.
Fe fydd y rhanbarth o Abertawe’n teithio i Stade Felix Mayol ar benwythnos gynta’ cystadleuaeth glybiau fwya’ Ewrop.
Fe fydd y gêm honno ar y dydd Sadwrn cynta’, Hydref 8, pan fydd y Scarlets yn croesawu Perpignan i Barc y Scarlets a Gleision Caerdydd yn derbyn Caeredin – mae’r gêm honno’n fyw ar S4C.
Yr unig gêm i dîm Cymreig ar y noson gynta’ un – nos Wener, Hydref 8 – yw honno rhwng y Dreigiau a Glasgow yng Nghasnewydd.
Yng Nghaerdydd y bydd rownd derfynol y Cwpan am y chweched tro – dwywaith yn amlach nag yn yr un stadiwm arall – pan oedd hi yno yn 2006, roedd un adroddiad wedi awgrymu bod y gêm wedi cyfrannu £25 miliwn i economi Cymru.
Mae mwy na hanner y tocynnau cyhoeddus ar gyfer y rownd derfynol eisoes wedi eu gwerthu.
Llun: Y lle i anelu amdano – Stadiwm y Mileniwm ym mis Mai 2011