Fe fydd ymchwiliad i honiadau bod y Gweinidog Iechyd wedi celu dogfen feirniadol yn dod i ben yn y dyddiau nesa’, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae Edwina Hart wedi cael ei beirniadu yn ystod yr wythnos a hanner ddiwetha’ gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ei chyhuddo o beidio â datgelu cynnwys y ddogfen sydd, medden nhw, yn feirniadol iawn o’r Gwasanaeth yng Nghymru.

Heddiw, yn ystod cwestiynau yn y Cynulliad, fe ddaeth Carwyn Jones o dan bwysau i gyhoeddi’r ddogfen gan yr ymgynghorwyr, McKinsey.

Roedd yna chwerthin ar ôl iddo wadu bod adroddiad – yn ôl y Llywodraeth, dogfen drafod yw hi – ac fe ddywedodd y byddai’n rhaid aros am ganlyniadau’r ymchwiliad i’r honiadau o gelu.

Casgliad

“Pan fydda’ i wedi dod i gasgliad yn yr ymchwiliad, fe fydda i’n penderfynu beth i’w wneud ag unrhyw ddogfennau a allai fod ar gael.

“Ond hyd nes bod ymchwiliad wedi’i gwblhau, fydda’ i ddim yn gwneud unrhyw sylwadau pellach.

” Mae Llywodraeth y Cynulliad yn edrych ar unrhyw awgrymiadau a ddaw o unrhyw ffynhonnell, o fewn rheswm ac wedi rhoi ystyriaeth briodol iddyn nhw.”

Y ‘ddogfen’

Un o feirniadaethau’r ddogfen yw bod amcanion strategol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n “rhy niferus a heb eu blaenoriaethu …”

Mae hefyd yn ychwanegu bod “diffyg atebolrwydd mewn gweithredu” ac nad yw “cynlluniau’n fforddiadwy”.

Eisoes, mae arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, wedi dweud fod gweinyddiaeth Carwyn Jones yn “methu derbyn beirniadaeth” ac mae yntau wedi galw am gyhoeddi’r adroddiad.

Llun: Carwyn Jones