Fe roddodd y cyn arweinydd Llafur, Neil Kinnock, “ddeg mas o ddeg” i Ed Miliband am ei araith fawr gynta’ i gynhadledd y Blaid Lafur.

“Roedd yn syfrdanol, nid yn unig o ran y traddodi ond, yn llawer pwysicach, oherwydd ei chynnwys, ei dewrder a’i honestrwydd,” meddai cyn AS Islwyn, a oedd yn un o gefnogwyr amlwg yr arweinydd newydd yn yr etholiad am y swydd.

Roedd yna ganmoliaeth hefyd gan ei frawd, David Miliband, a ddaeth yn ail agos iawn yn y ras ac a oedd wedi cael canmoliaeth uchel am ei berfformiad ei hun yn y gynhadledd ym Manceinion ddoe.

“Roedd hi’n araith gan wleidydd o argyhoeddiad,” meddai. “Roedd hi’n araith gref iawn, yn araith dda iawn … fe ddaeth ei rinweddau trwodd yn dda.”

Undebau’n canmol

Roedd arweinwyr undebau hefyd yn hapus – yn ôl cyd-ysgrifenyddion undeb mawr Unite, Tony Woodley a Derek Simpson, roedd yr araith wedi mynd i’r afael ag anhapusrwydd pleidleiswyr gyda Llywodraeth Lafur Tony Blair a Gordon Brown.

“Roedd hi’n araith ffantastig ac yn ysbrydoledig,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y GMB, Paul Kenny. “All neb amau fod gan Lafur arweinydd go iawn sy’n gallu cysylltu â phobol.

“Mae cenhedlaeth newydd wedi cyrraedd,” meddai wedyn, gan adleisio un o brif negeseuon Ed Miliband ei hun.

Llun: Neil Kinnock yn canmol