Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried mynd â rhai gwasanaethau oddi ar gynghorau lleol a’u darparu ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol newydd gyhoeddi ei fod yn cynnal arolwg i edrych ar amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan y 22 awdurdod lleol.
“Ar draws Cymru, mae gyda ni 22 awdurdod lleol yn darparu’r un gwasanaethau,” meddai Carl Sargeant. “Rhaid i ni ystyried a oes ganddyn nhw’r gallu i wneud hyn ac a allai rhai gwasanaethau gael eu cynnig ar raddfa ehangach yn yr hinsawdd economaidd bresennol.”
Fe ddywedodd y bydd yr adolygiad yn ystyried ble y dylai cynghorau gydweithio gyda chymdogion ac a ddylai gwasanaethau gael eu cynnig ar lefel ranbarthol neu trwy un corff cenedlaethol.
Fe fyddai’r arolwg, meddai, yn cynnig “fframwaith cliriach” a helpu awdurdodau lleol i “adnabod cyfleon” i newid eu gwasanaethau.
Fe fydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr arolwg, sydd i fod i gyflwyno adroddiad erbyn y Nadolig.
Llun: Carl Sargeant