Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud nad ydyn nhw wedi dechrau hysbysebu’r swydd am hyfforddwr llawn amser newydd i’r tîm rhyngwladol.
Fe ddaw hyn yn dilyn adroddiadau bod cyn hyfforddwr Lloegr, Terry Venables. wedi datgan ei ddiddordeb wrth y Gymdeithas.
Roedd cyn reolwr Lloegr wedi dweud wrth Radio Wales yn gynharach heddiw mai “dyfalu” oedd y cyfan, ond doedd e ddim wedi gwadu’r sïon yn llwyr.
Petai’n cael y swydd, ef fyddai’r ail Sais i’w chymryd – ar ôl teyrnasiad trychinebus Bobby Gould yn yr 1990au. Ond Terry Venables oedd un o reolwyr mwya’ llwyddiannus Lloegr, gan fynd â nhw i rownd gyn derfynol Cwpan Ewrop.
Flynn dros dro
Mae hyfforddwr timau ieuenctid Cymru, Brian Flynn wedi cael ei benodi dros dro ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir. Ond mae cyn rheolwr Wrecsam eisoes wedi dweud ei fod am gael ei benodi’n llawn amser.
Mae sawl enw arall wedi cael eu cysylltu gyda’r swydd gan gynnwys Chris Coleman, Martin O’Neill a Ryan Giggs.
“D’yn ni ddim wedi hysbysebu’r swydd eto, felly ar hyn o bryd pwy bynnag sydd wedi dangos diddordeb, mae’n dod o’u cyfeiriad nhw yn unig,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Llun: Brian Flynn – yno ar hyn o bryd