Mae Golwg360 yn deall bod cwmni bysus y Seren Arian yn bwriadu rhoi’r gorau i gynnal gwasanaethau lleol yn ardal Caernarfon erbyn diwedd yr wythnos hon.

Fe fydd y cwmni – Bysus Nedw ar lafar – yn dewis canolbwyntio ar yr ochr teithiau tramor a’r disgwyl yn lleol yw y bydd Cwmni Express Motors yn cymryd y gwaith lleol.

Mae’r ddau ymhlith cwmnïau bysus traddodiadol mwya’ adnabyddus gogledd Cymru gydag Express Motors wedi bod ar waith ers bron gan mlynedd a bysus Seren Arian wedi cael eu gweld ar y gyfres deledu Bysus Bach y Wlad yn yr 1980au.

Er nad oedd yr un o’r ddau gwmni’n gallu cadarnhau’r wybodaeth yn gyhoeddus, mae Golwg360 yn deall bod cyfarfod wedi ei gynnal i weithwyr yng Nghaernarfon neithiwr.

Ymateb y ddau gwmni

Fe ddywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr presennol Seren Arian, Elfyn Thomas ei fod yn methu â chadarnhau unrhyw fanylion ac na fyddai’n gallu rhoi sylwadau ar y mater nes bod trefniadau wedi’u cadarnhau.

Fe ddywedodd perchennog Express Motors wrth Golwg360 hefyd na fyddai’n gallu rhoi unrhyw sylwadau ar y mater ar hyn o bryd.

Llun: Bysus taith Seren Arian (o dudalen facebook y cwmni)