Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymeradwyo cynlluniau am drydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas.
Mae’r Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Adrews AC wedi cytuno i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar safle hen ysgol Eglwys St. Teilo.
Fe fydd yr ysgol newydd yn dod yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched rhwng 11 ac 18. Pan fydd yr ysgol yn gyflawn, mae disgwyl y bydd ganddi 1,114 o ddisgyblion.
Bydd yn tyfu fesul cam gyda phlant yn dechrau yno o fis Medi 2012 ymlaen ac ymgynghoriad ar ddalgylch yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei drafod yn yr hydref.
Mae cynlluniau eraill sydd wedi’u cymeradwyo gan y Llywodraeth yn cynnwys:
• Cau Ysgol uwchradd Llanedeyrn
• Trosglwyddo ysgol St Teilo yr Eglwys yng Nghymru i safle ysgol uwchradd Llanedeyrn.
• Creu 326 ychwanegol o lefydd i ddisgyblion yn yr ysgol honno a sefydlu darpariaeth arbennig i blant gyda nam ar eu golwg.
“Bydd y Cyngor yn awr yn gweithio’n agos gyda phob ysgol dan sylw i sicrhau bod y trefniadau pontio mor llyfn ag sy’n bosibl,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
Llun: Leighton Andrews – wedi cefnogi