Yn ôl y disgwyl, mae Ed Miliband wedi dweud bod cenhedlaeth newydd yn arwain y Blaid Lafur a bod angen newid gwleidyddiaeth.
Yn ei araith fawr gynta’ ers ennill swydd yr arweinydd, fe soniodd am ei gefndir ac fe aeth ati’n fwriadol i chwalu’r syniad ei fod ym mhocedi’r undebau Llafur.
Fe ddywedodd na fyddai’n fodlon cefnogi streiciau “anghyfrifol” a “rhethreg wag”. “Fydd y cyhoedd ddim yn eu cefnogi nhw, fydda’ i ddim yn eu cefnogi nhw a ddylech chi ddim eu cefnogi nhw chwaith,” meddai wrth gynhadledd y Blaid Lafur.
Ond roedd o blaid rhai o hoff bynciau’r undebau hefyd – “cyflog byw”, sy’n uwch na’r isafswm cyflog a newid agwedd at oriau gweithio.
Beirniadu – a chanmol – Blair a Brown
Fe ymdriniodd gyda llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown gyda chymysgedd o ganmol a chondemnio, gan ddweud fod rhaid dysgu oddi wrth gamgymeriadau’r blynyddoedd diwetha’. Yn hytrach na newid pethau, roedd y Blaid Lafur wedi mynd yn gaeth i’w syniadau ei hunan, meddai.
Roedd yn condemnio’r penderfyniad i fynd i ryfel Irac, yn beirniadu’r ffordd yr oedd deddfau newydd ar derfysgaeth wedi sathru ar hawliau ac yn awgrymu bod pethau pwysicach na grwpiau ffocws a dilyn barn y bobol.
Sialens fwya’r genhedlaeth newydd, meddai, oedd newid hinsawdd – roedd eisiau bod yn un o’r genhedlaeth gynta’ i sylweddoli hynny, nid yn y genhedlaeth ola’ i fethu â gwneud.
Tegwch a gobaith – ymosod ar y Llywodraeth
Gobaith a thegwch oedd sail ei ymosodiad ar y Llywodraeth, gan ddweud bod angen cynllun ar gyfer twf yr economi er mwyn torri’r diffyg ariannol.
Roedd angen gwarchod y bobol ar gyflogau canol ac is a chosbi’r rhai oedd wedi achosi’r trafferthion trwy dreth uwch ar weithgareddau bancio.
Yn fwy na dim, roedd yn mynnu mai Llafur oedd y blaid obeithiol . “Ni yw’r optimistiaid,” meddai wrth gloi, “a gyda’n gilydd fe allwn newid gwledydd Prydain”.
* Un o flaenoriaethau cynta’r Blaid Lafur, meddai Ed Miliband, fydd ennill etholiadau’r Cynulliad a sicrhau bod Carwyn Jones yn aros yn Brif Weinidog Cymru.
Llun: Ed Miliband ym Manceinion (Gwifren PA)