Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dechrau ymgynghori gyda chyrff statudol er mwyn gwella darn marwol o ffordd yn Sir Gaerfyrddin.

Ond, er bod dau ddyn wedi marw yno o fewn wythnosau i’w gilydd y llynedd, fe ddywedodd llefarydd na fydd cyffordd Cwmgwili ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham yn cael ei chau.

Yr wythnos ddiwetha’ fe gafodd natur y ffordd ei chondemnio gan y Crwner yn y cwest i farwolaeth dyn busnes lleol, Roger Bowen. Fe gafodd ei ladd ar ôl i’w gar gael ei daro gan gar heddlu.

Wrth ddweud nad oedd bai ar y plismon, fe ddywedodd crwner Sir Gar, John Owen bod methiant Llywodraeth y Cynulliad i wneud unrhyw welliannau i ddiogelwch ar gyffordd Cwmgwili wedi cyfrannu at y ddamwain.

Roedden nhw wedi cael rhybudd am y peryglon yn ôl yn 2004, meddai, ond doedd dim wedi’i wneud.

Achos llys

Ar hyn o bryd, mae dau ddyn ifanc yn wynebu achos llys ar ôl i ddyn 66 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei gar a’u ceir nhw.

Roedd Colin James, 66 oed, yn ceisio croesi’r gyffordd pan darodd ceir Rhydian Griffiths o Nant-y-Caws, Caerfyrddin a Richard Williams o Benygroes, Rhydaman, i mewn i’w gar Renault Clio ar 10 Ebrill 2009.

Mae achos llys wedi dechrau yn erbyn Rhydian Griffiths a Richard Williams, sy’n cael eu cyhuddo o yrru peryglus, gan rasio’i gilydd ar gyflymder o hyd at 100 milltir yr awr cyn y ddamwain.

Maen nhw’n gwadu hynny ac mae’r achos yn parhau.

Ymgynghori wedi dechrau

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad, fe fydd yna ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar ôl iddyn nhw gael barn y cyrff statudol.

Y gobaith yw gallu cadarnhau’r gorchmynion i wella’r gyffordd a dechrau ar y gwaith cyn diwedd y flwyddyn.

Ond fe nododd y llefarydd nad oes cynlluniau i gau unrhyw gyffordd ar hyd yr A48. “Fe allai cau cyffyrdd unigol arwain at deithwyr yn defnyddi o cyffordd arall llai addas i droi ar yr A48 neu wneud tro-pedol.”

Llun: Camera Traffic Wales yn edrych i fyny’r A48 i gyfeiriad cyffordd Cwmgwili. (Traffic Wales)