Fe fydd tua 350 o swyddi dros dro newydd yn cael eu creu gan Debenhams yng Nghymru ar gyfer tymor y Nadolig, meddai llefarydd ar ran y cwmni wrth Golwg360.
Daw hyn wedi i’r cwmni ddweud eu bod yn creu 9,000 o swyddi newydd dros dro ar gyfer tymor y Nadolig trwy wledydd Prydain – mwy nag yn yr un cyfnod y llynedd.
“Fe fydd tua 50 o swyddi (dros dro) newydd yn cael eu creu ym mhob siop yng Nghymru ond gallai hyn newid wrth i ni ddod yn nes at dymor y Nadolig,” meddai’r llefarydd wrth Golwg360.
Mae gan Debenhams saith o siopau yng Nghymru i gyd, a 160 led led gwledydd Prydain.
Swyddi o fis ‘Tachwedd i Ionawr’
Swyddi rhan amser fydd y swyddi, ac fe fyddan nhw ar gael rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr, i gynnwys cyfnod y sêls. Fe fyddan nhw’n cynnwys patrymau shifftiau hyblyg.
Yn ogystal â swyddi trin stoc a gwerthu, fe fydd y cwmni hefyd yn chwilio am staff i god yn gynghorwyr anrhegion, gan dderbyn hyfforddiant arbennig.
“Mae ein hymgyrch recriwtio mor enfawr ein bod am y tro cyntaf wedi hyfforddi rheolwr ym mhob un 160 o’n siopau i oruchwylio staffio ar gyfer y Nadolig,” meddai’r llefarydd.
Fe ddywedodd y Gweinidog Cyflogaeth Chris Grayling fod y “swyddi newydd yn hwb mawr i bobl sy’n ceisio am waith a bod patrymau gweithio hyblyg yn gyfeillgar i deuluoedd”.
Mae Debenhams yn cyflogi 23,000 o staff llawn amser..
Llun: Siop Debenhams (o wefan y cwmni)