Yn union cyn i Ed Miliband roi ei araith gynta’ o swydd arweinydd y Blaid Lafur, mae dau ffigwr amlwg wedi pwysleisio’r angen i gadw cefnogaeth y canol.
Maen nhw hefyd wedi ceisio gwarchod yr arweinydd newydd rhag cyhuddiadau ei fod ymhell i’r chwith.
Un o’r rheiny yw’r cyn Ysgrifennydd Tramor a Chartref, Jack Straw, a bwysleisiodd bod rhaid i’r blaid ddysgu gwersi’r gorffennol.
Gan ddyfynnu Ed Miliband ei hun, fe ddywedodd wrth gynhadledd y blaid ym Manceinion na fedrai Llafur ennill eto gyda chefnogaeth neb ond “y gwannaf mewn cymdeithas” – roedd rhaid cael cefnogaeth y canol hefyd.
‘Arweinydd dawnus’ meddai Abott
Ac mae Diane Abbott, yr ymgeisydd a ddaeth yn ola’ yn ras yr arweinyddiaeth wedi mynnu mai nonsens yw’r enw ‘Red Ed’ ar yr arweinydd newydd.
A hithau ar chwith y blaid, fe ddywedodd yr AS bod Ed Miliband yn “arweinydd dawnus a charismataidd ar y canol”.
Fe gadarnhaodd Diane Abott hefyd y bydd yn cynnig ei henw ar gyfer cabinet yr wrthblaid. Fe fyddai’n gweithredu fel aelod o dîm, meddai, ond gan gadw ei chymeriad.
Llun: Jack Straw cyn areithio heddiw yng nghynhadledd y Blaid Lafur (Gwifren PA)