Mae’r pwysau ar y mudiad milwrol Basgaidd ETA yn parhau yn Sbaen, gydag arestio saith o bobol sy’n cael eu cyhuddo o fod yn aelodau a chefnogwyr amlwg i’r grŵp.
Fe aeth yr heddlu i nifer o gartrefi yng Ngwlad y Basg ac ardal gyfagos Navarre yn gynnar y bore yma ac arestio’r saith sy’n cael eu hamau o wneud gwaith hyrwyddo ar ran y grŵp.
Er bod ETA wedi cyhoeddi cadoediad ynghynt yn y mis, mae Llywodraeth Sbaen wedi wfftio at hynny gan ddweud bod rhaid iddyn nhw roi’r gorau i drais yn llwyr.
Gwendid
Mae rhai hefyd yn credu bod y cyhoeddiad yn arwydd o wendid ac mae’r Llywodraeth yn cymryd mantais ar hynny – roedd y gorchymyn i’r heddlu heddiw wedi dod o Fadrid ac mae nifer o aelodau honedig eraill wedi eu harestio yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Roedd lluniau mewn papurau yn Sbaen yn dangos heddlu’n cario pethau allan o’r tai lle bu’r arestio.
Yn ystod y deugain mlynedd diwetha’, mae ETA wedi bod yn gyfrifol am fwy nag 800 o farwolaethau yn eu brwydr am ryddid i Wlad y Basg yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc.
Llun: Effaith un o ymosodiadau ETA