Y Cymro Rhys Ifans oedd y prif ddewis o’r cychwyn cyntaf i actio Howard Marks yn y ffilm am fywyd y smyglwr cyffuriau o Gymru.
Roedd yr actor o Glwyd yn “ddelfrydol” ar gyfer y rhan, meddai’r dyn ei hun yn ystod lansiad Cymreig y ffilm, sydd wedi ei seilio ar ei hunangofiant, Mr Nice.
Roedd ganddo “ddidwylledd” a “doethineb” ac roedd yn bwysig cael rhywun oedd yn “iau a thalach” ac yn edrych yn well nag ef, meddai Howard Marks, sy’n wreiddiol o ardal Pen-y-bont.
“Rydym yn ffrindiau agos ac mae gennym lawer yn gyffredin,” meddai Howard Marks adeg y gala Gymreig.#
Fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Bernard Rose ei fod yntau’r “un mor awyddus” i roi’r rhan i Rhys Ifans.
Er gwaetha’r holl sylw – neu o’i herwydd – fe lwyddodd yr actor i osgoi’r wasg am ran helaeth o’r noson gan dreulio amser gyda’i ffrindiau enwog – Meg Matthews, y drymiwr Supergrass Danny Goffey a’i wraig Pearl Lowe a’u merch, y fodel Daisy Lowe.
Llun: Howard Marks a Rhys Ifans yn y Gala yng Nghaerdydd (Gwifren PA)