Mae bom car wedi ffrwydro a lladd chwech o bobol yn Afghanistan heddiw, gan gynnwys un o swyddogion y Llywodraeth yno.
Fe yrrodd bomiwr car mewn i gonfoi oedd yn teithio i swyddfa ddirprwy llywodraethwr dinas Ghazni, Khazim Allayar.
Fe fu farw Khazim Allayar ynghyd â’i fab, ei yrrwr a thri gwarchodwr. Fe gafodd 12 person oedd yn agos i’r ymosodiad eu hanafu yn y ffrwydrad.
Mae aelodau’r llywodraeth yn Afghanistan yn cael eu targedu’n gyson ac roedd Khazim Allayar, a oedd yn ei swydd ers saith blynedd, wedi byw trwy ffrwydrad arall ddau fis yn ôl.
Mae Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai wedi galw ar bobol y wlad i wrthod trais, a hynny ynghanol pryder y bydd pobol ifanc yn penderfynu ffoi o’r wlad.
Fe alwodd Hamid Karzai ar wrthryfelwyr y Taliban i roi’r gorau i’w hymosodiadau: “Peidiwch â dinistrio eich tir eich hunain er mwy i elwa,” meddai Arlywydd Afghanistan.
Llun: Hamid Karzai’n galw ar y Taliban i ymatal (Gwifren PA)