Wrth i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol gefnogi agwedd y Llywodraeth at glirio’r diffyg ariannol, fe ddangosodd ffigurau swyddogol bod yr economi wedi tyfu’n gynt yn ail chwarter eleni nag ar unrhyw adeg ers naw mlynedd.
Mae hynny’n cadarnhau barn cronfa’r IMF bod amgylchiadau eisoes yn “dechrau gwella” – roedd y cynnydd tros y tri mis yn 1.2% ac yn uwch na’r disgwyl.
Yn ei ddyfarniad swyddogol cyntaf ar strategaeth y weinyddiaeth newydd i fynd i’r afael â’r economi – fe ddywedodd yr IMF fod mesurau’r Canghellor George Osborne yn “gredadwy” a “hanfodol” a bod adferiad yn digwydd yn barod.
“Mae’r cynllun yn lleihau’r peryg costus o golli hyder mewn cyllid cyhoeddus ac mae’n cefnogi adferiad cytbwys,” meddai’r sefydliad dylanwadol sy’n adnabyddus am fod o blaid cyfyngu ar wario cyhoeddus.
Fe ddywedodd yr IMF bod “diweithdra wedi sefydlogi a’r sector ariannol wedi gwella.”
Yn ôl y ffigurau newydd heddiw, un o’r rhesymau am y twf yw llwyddiant y sector adeiladu, sy’n dangos y cynnydd mwya’ ers 1963.
Rhybudd hefyd
Er y ganmoliaeth, fe ostyngodd yr IMF eu rhagolygon ar gyfer twf yn ystod y flwyddyn nesa’ – o 2.1% i 2% – ac mae sylwebwyr eraill wedi rhybuddio mai dyma binacl y twf am y tro.
Fe ddywedodd y Canghellor George Osborne ei fod yn “croesawu cymeradwyaeth yr IMF o strategaeth gyllid y Llywodraeth”.
“Maen nhw wedi dweud yn eithaf clir bod y cynllun lleihau diffygion yr ydym wedi’i osod allan yn hanfodol i greu cyllideb gynaliadwy,” meddai wrth y BBC.
Ar y llaw arall, mae Llafur yn debyg o ddadlau fod y cynnydd yn yr economi’n arwydd nad oes rhaid torri gwario mor ffyrnig ag y mae Llywodraeth y Glymblaid yn bwriadu gwneud.