Mae Casnewydd yn anelu at symud i mewn i dri uchaf Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth arall yn erbyn Forest Green ar Barc Spytty heno.

Dyw Casnewydd ddim wedi colli gartref mewn 29 gêm – rhediad sy’n ymestyn yn ôl 19 mis. Mae tîm Dean Holdsworth wedi ennill pedair gêm yn olynol i’w codi i’r pumed safle yn y tabl.

Ond fe fydd Casnewydd yn gweld eisiau sawl chwaraewr wrth i’r anafiadau o fewn y garfan gynyddu.

Fydd yr amddiffynnwr Chris Todd ddim ar gael ac mae’r capten Gary Warren ac Eddie Odhiambo yn wynebu profion ffitrwydd hwyr.

Mae Lee Baker, sy’n gwella o anaf i’w droed, a Wayne Turk, sydd heb chwarae’r tymor hwn oherwydd anaf i’w ben-glin, mas am dipyn eto.

Gyda sawl anaf i’w chwaraewyr mae’r rheolwr wedi arwyddo ymosodwr ifanc Bristol Rovers, Charlie Clough, ar gytundeb benthyg am fis.

Llun: Chris Todd – ddim ar gael (Casnewydd)