Mae rheolwr Wrecsam, Dean Saunders yn awyddus i gynnal rhediad diguro’r Dreigiau wrth iddyn nhw wynebu Grimsby Town yn Blundell Park heno.
Dyw Wrecsam ddim wedi colli mewn wyth gêm ac mae Saunders am weld ei chwaraewyr yn cynyddu hynny i ddeg gêm.
“Dw i wedi dweud wrth y chwaraewyr os ydyn nhw eisiau bod yn rhan o dîm sy’n ennill, rhaid iddyn nhw feddwl am frwydro trwy’r tymor nid am eu diwrnod nesaf bant,” meddai Saunders.
Mae disgwyl i’r rheolwr gadw’r un tîm a gurodd Histon 4-0 dros y penwythnos ar gyfer y daith i Grimsby.
Yr unig amheuaeth sydd gan Wrecsam yw Jay Harris a gafodd anaf i’w glun dros y penwythnos, ond mae disgwyl iddo fod yn ffit i chwarae.
Pe bai Wrecsam yn ennill heno, fe fydden nhw wedi sicrhau eu trydedd buddugoliaeth yn olynol am y tro cyntaf mewn dwy flynedd.
Llun: Dean Saunders