Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi cael hwb o flaen gêm yr Elyrch yn erbyn Watford yn Vicarage Road heno.
Bydd Rodgers yn dychwelyd i’w gyn glwb gyda Scott Sinclair a Stephen Dobbie wedi gwella o’r anafiadau a orfododd y ddau i golli’r gêm yn erbyn Nottingham Forest dros y penwythnos.
Mae Angel Rangel a Craig Beattie hefyd wedi teithio gyda’r garfan ar gyfer y gêm yn y Bencampwriaeth yn erbyn y tîm sy’n drydydd a thri phwynt o flaen Abertawe.
Mae Rangel wedi bod yn absennol gydag anaf i’w goes ers chwarae yn erbyn Preston ar 14 Awst tra bod Beattie heb chwarae’r tymor hwn oherwydd anaf a gafodd ar daith yr Elyrch i’r Iseldiroedd dros yr haf.
‘Dim perfformiad tebyg eto’
“Mae braf i’w cael nhw’n ôl. Mae’n hwb fawr ar gyfer gêm anodd,” meddai Brendan Rodgers.
“Dyma’r gêm berffaith sydd ei hangen arnon ni ar ôl Nottingham Forest. Roedd perfformiad dydd Sadwrn yn siomedig a doedd neb yn ei ddisgwyl ar ôl y ffordd r’yn ni wedi chwarae’r tymor hwn.
“R’yn ni wedi siarad yn onest am y gêm ac mae’r chwaraewyr yn ddigon cryf i daro’n ôl yn y gêm nesaf. Dw i ddim yn credu y byddwn ni’n cael perfformiad tebyg i hynna eto.”
Mae disgwyl i Darren Pratley a David Cotterill fod yn absennol oherwydd anafiadau wrth i Abertawe geisio ennill eu gêm gyntaf oddi cartref y tymor hwn.
Llun: Scott Sinclair – yn ôl