Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi ceisio rhoi sicrwydd i’r Unol Daleithiau y bydd gwledydd Prydain yn dal i allu ei chefnogi’n filwrol, er gwaetha’ toriadau gwario.

Roedd hynny’n cynnwys cadw arfau niwclear annibynnol – testun dadl rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol o fewn Llywodraeth y Glymblaid.

Mae disgwyl i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gwtogi ar ei chyllideb o rhwng 10% ac 20% ac mae rhai sïon y bydd rhaid cwtogi ar gynlluniau ar gyfer awyrennau jet newydd yr RAF ac awyrennau’r Llynges.

Yn ôl William Hague ei hun, mae’r gyllideb amddiffyn fel y mae yn mynd i orwario £38 biliwn yn ystod y deng mlynedd nesa’.

Ond yn Efrog Newydd, fe ddywedodd William Hague wrth y corff syniadau, Cyngor yr Unol Daleithiau ar Gysylltiadau Tramor, y bydd Prydain yn aros “yn gynghreiriad pwysig iawn” i’r Unol Daleithiau.

“Er y bydd yn rhaid i ni wneud rhai addasiadau, newidiadau a gostyngiadau, dw i’n meddwl y gall America fod yn sicr y byddwn yn dal i wneud cyfraniad pwysig,” meddai.

‘Penderfyniadau brys’

Yn ôl William Hague, mae angen “penderfyniadau brys” yn yr adolygiad diogelwch sydd yn yr arfaeth.

“Mae yna longau ac awyrennau ar fin cael eu hadeiladu neu eu prynu gydag arian nad yw’n bod neu sydd erioed wedi bod mewn gwirionedd,” meddai.

“Beth bynnag yr ydym yn ei wneud, bydd Prydain yn cadw rôl fyd-eang ac yn aros yn un o brif gynghreiriad yr Unol Daleithiau.”

Llun: Trident – y system niwclear Brydeinig