Amser cinio ddydd Gwener fe fydd rheolwr y tîm pêl-droed rhyngwladol yn cyhoeddi pwy sydd yn y garfan ar gyfer dwy gêm nesaf Cymru.

Digwyddiad digon di-nod fyddech chi’n meddwl ond, ddydd Gwener, am y tro cyntaf ers peth amser, fe all fod yn ddiddorol iawn gweld pa enwau sydd yn y garfan. Y rheswm syml am hynny yw bod ymadawiad John Toshack, a phenodiad Brian Flynn i’w olynu am y ddwy gêm nesaf, wedi agor y drws i rai chwaraewyr sydd wedi eu diystyru’n llwyr yn ddiweddar am resymau amrywiol.

Mae Flynn wedi ei benodi gan ei fod yn gyfarwydd â’r chwaraewyr, ac yn arbennig y chwaraewyr ifanc. Mae’n eironig felly y gallai benderfynu troi at rai chwaraewyr hŷn sydd wedi bod yn y diffeithwch rhyngwladol i geisio adfywio gobeithio Cymru. Mae Toshack wedi sicrhau fod digon ohonyn nhw allan yna, ond pwy ddylai Flynn ystyried galw arnyn nhw ar gyfer y gemau nesaf yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir?

Robbie Savage (o wefan Derby County)

Robbie Savage – Nemesis John Toshack, ond un o chwaraewyr pwysicaf cyfnod ei ragflaenydd, Mark Hughes – mae Savage yn hollti barn mewn sawl ffordd…Mr Marmite go iawn. Yn ei golofn yn y Daily Mirror ddechrau mis Medi fe wnaeth Savage gais reit glir i gael ei ystyried ar gyfer Cymru eto, gan sôn sut y mae wedi aeddfedu, a pha mor bwysig ydy o i dîm Derby County. Mae Savage bron yn 36 oed, a dw i ddim yn gweld fod ganddo ddigon i’w gynnig i’r tîm bellach felly cadw’n glir wneith Flynn dwi’n siŵr.

Simon Davies

Simon Davies – Mae penderfyniad Davies i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol dros yr haf yn dal i fod yn ddirgelwch i mi. Ac yntau’n 31 mlwydd oed, yr ymgyrch hon fyddai ei un cyfle olaf i chwarae mewn ffeinals rhyngwladol gyda Chymru. Mae’n chwarae’n rheolaidd i Fulham eleni, ac mae’r ffaith i Flynn gael ei weld yn gwylio gêm ei dîm yn erbyn Blackburn bythefnos yn ôl yn awgrymu ei fod am geisio perswadio Davies i ddychwelyd. Heb os, fe all gynnig llawer i’r tîm, yn enwedig yn absenoldeb Aaron Ramsey a Jack Collison.

Danny Collins

Danny Collins – Un arall sy’n chwarae’n rheolaidd i’w glwb, Stoke, yn Uwch Gynghrair Lloegr. Fe gafodd ffrae â Toshack, ond fe agorodd y drws i ddychwelyd flwyddyn yn ôl. Wnaeth Toshack ddim byd am y peth bryd hynny, ond mae’n debygol y bydd Flynn yn fwy parod i weithredu. Yn ogystal â chwarae ar y lefel uchaf, mae Collins yn gallu chwarae ym mhob safle ar draws yr amddiffyn felly fe fyddai’n handi dros ben.

Ryan Giggs

Ryan Giggs – Fe fyddai’n wych gweld Giggs nôl yng nghrys Cymru a byddai ei bresenoldeb yn amhrisiadwy petai Flynn yn gallu ei berswadio fo (a dal pen rheswm â’i reolwr clwb) i helpu ei wlad dros y ddwy gêm nesaf. Yn anffodus, mae anaf i Giggs yn erbyn Bolton ddydd Sadwrn yn golygu bod y gobaith o hynny hyd yn oed yn fwy annhebygol bellach.

Jason Koumas

Jason Koumas – Un o chwaraewyr mwyaf talentog Cymru, os nad gwledydd Prydain, ond fel gyda gymaint o chwaraewyr athrylithgar, boi hollol ddidoreth ac anghyson! Mae ar fenthyg i Gaerdydd ar hyn o bryd, ond dim ond tair gêm y mae wedi eu dechrau tra mai lle ar y fainc yn unig mae wedi’i gael yn yr wythnosau diwethaf. Mae amlwg nad yw’n ffit ar hyn o bryd, ond petai’n gallu dod nôl i ffitrwydd a’r safon sydd o fewn ei allu yna bydd Flynn yn cnocio ar ei ddrws.

John Oster

John Oster – Un arall o bersonoliaeth debyg i Koumas – chwaraewr talentog dros ben, ond cymeriad rhyfedd iawn. Yn 31 oed, mae’n chwarae i Doncaster yn y Bencampwriaeth bellach ac yn chwaraewr pwysig iddyn nhw. Ydy o’n well na bois fel Andy King, David Vaughan a David Edwards? Dwi ddim yn siŵr. Fe allai Flynn ei alw i helpu yn y tymor byr.

Dyna’r opsiynau sydd gan Flynn felly os am ychwanegu ychydig o brofiad i’r tîm, ac efallai y bydd rhaid iddo ystyried rhai ohonyn nhw o ddifri os ydy Bellamy yn colli’r gemau trwy anaf. Fyswn i’n synnu dim i weld Davies a Collins yn y garfan ddydd Gwener, ond mae’r lleill yn llai tebygol … er y byddai pob cefnogwr yn gwerthu ei nain i weld enw Ryan Giggs yng nghanol y cae yn erbyn Bwlgaria!