Fe gafwyd cam arall yn ymgais China i dynnu Tibet yn dynnach i mewn i’r wladwriaeth.
Mae’r gwaith o adeiladu rheilffordd newydd wedi dechrau rhwng prifddinas Tibet, Lhasa, ac ail ddinas fwya’r ardal, Shigatse.
Mae China’n cael ei chyhuddo o geisio dinistrio hunaniaeth Tibet trwy symud pobol Chineaidd i mewn a chryfhau’r cysylltiadau rhyngddi a gweddill y wladwriaeth.
Mae China, ar y llaw arall, yn honni bod Tibet yn rhan hanesyddol o China ac, ar ôl cyfnod o hunanlywodraeth ar ddechrau’r 1950au, fe feddiannodd yr ardal yn llwyr yn 1959.
Y disgwyl yw y bydd y lein 157 milltir o hyd yn cymryd hyd at bedair blynedd i’w hadeiladu – roedd rheilffordd rhwng Lhasa a phrifddinas China, Beijing, wedi ei hagor yn 2006.
Mae’r Chineaid hefyd yn adeiladu maes awyr newydd yn Nhibet – yr ucha’ yn y byd – a’r disgwyl yw y bydd yn cael ei agor y flwyddyn nesa’.
Llun: Shigatse, ail ddinas Tibet (John Hall – Trwydded GNU)