Mae’n ymddangos fod milwyr o Iran wedi croesi’r ffin i mewn i Irac a lladd tua 30 o ddynion arfog yno.
Yn ôl Iran, y dynion oedd yn gyfrifol am ymosodiad ar orymdaith filwrol yn ardal Gwrdaidd y wlad yr wythnos ddiwetha’.
Bryd hynny, fe gafodd 12 o ferched a phlant eu lladd wrth iddyn nhw gofio 30 mlynedd ers y rhyfel rhwng Iran ac Irac.
Er nad oes yr un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb ac er bod y rhan fwya’ o grwpiau Cwrdaidd wedi ei gondemnio, nhw sy’n cael y bai gan Iran. Yn ôl un o benaethiaid y fyddin, roedden nhw wedi croesi’r ffin i ladd y “terfysgwyr”.
Mae’r Llywodraeth yn Tehran hefyd wedi cyhuddo Israel a’r Unol Daleithiau o gefnogi’r Cwrdiaid.
Maen nhw’n dweud eu bod yn dal i chwilio am ddau ddyn a lwyddodd i ddianc.
Yr ymosodiad – y cefndir
Fe ddigwyddodd ymosodiad yr wythnos ddiwetha’ yn ninas Mahabad yng ngogledd orllewin Iran.
Cwrdiaid a Moslemiaid Sunni yw mwyafrif y 190,000 o bobol sy’n byw yno, er mai Moslemiaid Shi-aidd yw’r rhan fwya’ o bobol Iran.
Am gyfnod byr yn 1946-47, roedd ardal Mahabad yn ‘Weriniaeth Gwrdaidd’ ar wahan, gyda chefnogaeth yr Undeb Sofietaidd.
Yn y gorffennol, mae Iran wedi dweud eu bod yn fodlon croesi’r ffin ag Irac i ymosod ar derfysgwyr ond dyw hynny ddim wedi digwydd yn aml.
Llun: Map yn dangos Mahabad (CCA3.0)