Fe fydd tîm Cwpan Ryder yr Unol Daleithiau yn glanio ym Maes Awyr Caerdydd heddiw wrth baratoi i herio chwaraewyr gorau Ewrop yn y Celtic Manor ddiwedd yr wythnos.

Mae awyren yr Americanwyr eisoes wedi cychwyn y daith o Faes Awyr Hartsfield yn Atlanta, Georgia, ac mae disgwyl iddi gyrraedd prifddinas Cymru am 11.00 y bore.

Fe fydd capten yr Unol Daleithiau, Corey Pavin, ynghyd ag aelodau ei dîm yn cael eu croesawu yn y maes awyr gan gapten tîm Ewrop, Colin Montgomerie.

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd yn bresennol ynghyd â chyfarwyddwr Cwpan Ryder, Richard Hills, cadeirydd y PGA, Phil Weaver, a chadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine.

Y digwyddiadau

• Fe fydd Montgomerie a Pavin yn cynnal cynhadledd i’r wasg yn y maes awyr ac yna cynhadledd arall yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

• Fe fydd y Tywysog Charles yn cael cinio gyda’r ddau gapten cyn mynd ar daith o amgylch y cwrs golff yn y Celtic Manor ddydd Mercher.

• Nos Fercher, fe fydd yna gyngerdd croesawu yn Stadiwm y Mileniwm gyda sêr megis Shirley Bassey, Catherine Zeta Jones a Katherine Jenkins yn cymryd rhan.

Bydd yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn wynebu ei gilydd am y tro cyntaf ddydd Gwener gyda’r gystadleuaeth yn parhau tan ddydd Sul.