Fe fydd Carwyn Jones yn agor swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yng Ngogledd Cymru yn swyddogol heddiw.
Y swyddfa yng Nghyffordd Llandudno yw’r trydydd a’r olaf y tu allan i Gaerdydd. Mae’r swyddfeydd eraill ym Merthyr Tudful ac Aberystwyth.
Nod y swyddfeydd yw rhoi presenoldeb i’r Llywodraeth ym mhob rhan o’r wlad, a symud swyddi allan o’u pencadlys ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Erbyn hyn mae bron i hanner (43%) o swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wedi eu lleoli tu allan i Gaerdydd, cynnydd o 20% ar 2003 pan ddechreuon nhw symud swyddi.
“Mae o’n ddiwrnod hanesyddol i bobol gogledd Cymru,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.
“Ar fy nhaith gyntaf yma fel Prif Weinidog, fe ddywedais i mai un o fy mlaenoriaethau oedd sicrhau bod pobol gogledd Cymru yn gwybod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yno iddyn nhw.
“Mae’r swyddfa newydd yn creu dolen uniongyrchol gyda’r gymuned ac yn dangos pa mor ddifrifol ydym ni ynglŷn â dod a’r Llywodraeth yn agosach at bobol Cymru.”
Ychwanegodd bod mwy nag £8.7 miliwn wedi ei wario yn lleol er mwyn adeiladu’r swyddfa a bod tua hanner y gweithlu wedi ei recriwtio yn lleol.
Lle i fwy o weithwyr
Hyd yn oed cyn iddo agor roedd yr adeilad wedi denu beirniadaeth, gydag Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, yn dweud dros yr haf na fyddai cymaint o bobol yn gweithio yno a’r disgwyl.
Dim ond tua 480 o bobol fydd yn gweithio yno, er bod gan yr adeilad – a gostiodd £27 miliwn i’w hadeiladu – le i 650 o bobol, meddai.
Ond mae’r Llywodraeth wedi mynnu eu bod nhw wedi dweud o’r dechrau mai lle i “hyd at 650” o bobol sydd yn yr adeilad.