Mae gwyddonydd wedi dweud ei fod yn disgwyl i ddaeargryn “cryf” daro Cymru ryw ben yn y dyfodol.

Daw rhybudd Dr Roger Musson ar ôl i’r wlad brofi pedwar cryndod bach dros y mis diwethaf.

Dylai Cymru ddisgwyl daeargyn cryf bob 75 mlynedd ar gyfartaledd, meddai’r arbenigwr o Arolwg Daearegol Prydain wrth bapur newydd y Western Mail.

Ond mae dros 100 mlynedd wedi bod ers yr un diwethaf, ac mae’n honni y gallai un sy’n mesur pump ar y raddfa Richter daro’r wlad yn fuan.

Ers 22 Awst eleni, mae Bae Ceredigion, Bangor, Y Fenni ac Aberdâr wedi profi cryndodau bychain, yn isel ar y raddfa Richter.

Ond mae hi’n anodd iawn darogan pryd y bydd y daeargryn nesaf yn taro meddai Dr Musson, gan nad oes unrhyw wybodaeth ystadegol ar gael ynglŷn â daeargrynfeydd y gorffennol.

Yr ardaloedd sy’n fwyaf tebygol o brofi daeargryn yw Eryri neu Dde Cymru meddai, ond ychwanegodd na fyddai’r daeargryn yn debygol o greu difrod mawr.

Mi allai achosi i simnai gwympo ac mi allai plastar ddod oddi ar waliau, meddai, ond ni fyddai’n disgwyl i adeiladau cyfan syrthio.

Ychwanegodd fod y cofnodion cyntaf yn dangos bod daeargryn cryf wedi taro Cymru yn 1727, ac mae sawl un arall wedi bod ers hynny.

Tarodd y daeargryn mawr diwethaf, graddfa 5.2, Abertawe yn 1906 gan achosi difrod mawr, meddai.