Mae cyn rheolwr BBC Cymru wedi rhybuddio ein bod ni’n wynebu “degawd catastroffig” ar gyfer darlledu yng Nghymru os yw’r buddsoddiad mewn rhaglenni yn parhau i ddirywio.

Dywedodd Geraint Talfan Davies fod y cwtogi mewn gwariant ar raglenni iaith Saesneg yng Nghymru yn “frawychus”.

Daw ei sylwadau ar ôl i Ofcom gyhoeddi ffigurau sy’n dangos mai Cymru welodd y cwymp mwyaf mewn gwariant ar ddarlledu yng ngwledydd Prydain rhwng 2004 a 2009, sef 44%.

Mae’r cwtogi blynyddol yn ystod y cyfnod yn 11% yng Nghymru dywedodd wrth y papur, o’i gymharu â 10% yng Ngogledd Iwerddon; 9% yn Lloegr a 7% yn yr Alban.

Roedd hynny “hyd yn oed cyn i Lywodraeth y DU ddechrau torri cyllideb S4C” meddai wedyn.

Mae’n argyhoeddedig bellach bod dyfodol darlledu Saesneg yng Nghymru yn nwylo’r BBC yn unig, am nad oes digon o bwysau ar ITV i ddarparu gwasanaethau rhanbarthol.

Dim ond “ewyllys gwleidyddol” fyddai’n gallu atal y dirywiad, meddai.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth yr Alban wedi lansio adolygiad er mwyn gweld a fyddai’n bosib sefydlu darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fyddai’n gallu cystadlu â’r BBC.

Mae’r Gweinidog Diwylliant Fiona Hyslop wedi penodi panel annibynnol i edrych ar ffyrdd o ariannu rhwydwaith ddigidol o sianeli ar y teledu a’r rhyngrwyd.