Bydd Abertawe yn gobeithio am fuddugoliaeth gyntaf oddi cartref wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Peterborough United yn London Road heno.
Er eu bod nhw wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn y gynghrair, roeddyntwedi gadael eu dwy gêm oddi cartref, yn erbyn Norwich City a Leeds United, yn waglaw.
Mae’r Elyrch yn wynebu tair gêm oddi cartref yn olynol dros yr wythnos nesaf a dywedodd eu capten Garry Monk fod yn rhaid iddyn nhw ddechrau eu hennill.
“D’yn ni ddim eisiau poeni gormod am y peth ond mae’n o’n bwysig ein bod ni’n dechrau ennill oddi cartref,” meddai Garry Monk wrth bapur newydd y Western Mail.
“Mae’r gemau yn dechrau dod yn gyflymach felly mae’n rhaid codi dipyn o stem.
“Mae gennym ni dair gêm oddi cartref yn olynol felly mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Peterborough.
“Fe ddaw hynny gyda phrofiad. Mae yna chwaraewyr ifanc yn y sgwad ac oddi cartref bydd angen newid ambell i beth bach a bydd y buddugoliaethau yn dod.”