Mae Grŵp Ymgyrchu rhieni Ysgol Treganna a Than yr Eos wedi cynnig croeso ‘gofalus’ heddiw i’r cynllun i adeiladu ysgol newydd yn yr ardal.
Ond mae’r rhieni wedi rhybuddio yn erbyn cymryd yn ganiataol y bydd y cynllun diweddaraf gan gyngor y ddinas yn datrys problemau addysg Gymraeg Treganna a Trelluset.
“Fel rhieni rydym yn falch fod Cyngor Caerdydd wedi gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw eu bod nhw’n mynd i adeiladu ysgol newydd er mwyn boddhau’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Nhreganna,” meddai Nia Williams, Ysgrifennydd Grŵp Ymgyrchu Treganna a Than yr Eos.
“Fe fydd hefyd yn datrys problemau Ysgol Treganna, sy’n orlawn, ac mae’r plant a’r athrawon wedi dioddef ers blynyddoedd lawer oherwydd hynny.
“Fodd bynnag, rydym wedi gweld cynlluniau ad-drefnu ddwywaith o’r blaen ac wedi gweld y gobeithion hynny’n cael eu chwalu.
“Gweithredu yn hytrach na siarad felly fydd mesur ymrwymiad y Cyngor.
“Yn ogystal â’r Cyngor, gobeithiwn hefyd y bydd y Prif Weinidog yn cadw’r addewid a wnaeth i ni yn ystod cyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyd-weithio’n gadarnhaol ac ar frys gyda’r cyngor er mwyn gwireddu’r datrysiad hwn i’r sefyllfa echrydus y mae ysgolion Treganna a Than yr Eos ynddi.”
Y cefndir
Byddai’r ysgol newydd yn cael ei chodi ar dir sy’n berchen i’r Cyngor wrth ymyl Sanatorium Road gyda’r bwriad o ddatrys y broblem o alw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Treganna.
Yn ôl ym mis Mai gwrthododd Prif Weinidog Cymru gynnig y Cyngor i gau Ysgol Gynradd Lansdowne ac adleoli Ysgol Treganna ar safle ysgol Lansdowne.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod eu swyddogion wedi dod i’r casgliad mai codi ysgol newydd yw’r unig opsiwn ymarferol sydd ar ôl.
Amcangyfrifir y bydd y project yn costio tua £9m ac y bydd Cyngor Caerdydd yn ddibynnol ar gyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adeiladu’r ysgol.
“Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn tyfu ac mae’r broblem yn cael ei dwysáu gan y ffaith bod y boblogaeth yn y rhan hon o’r ddinas wedi bod ar gynnydd yn ystod y tair blynedd diwethaf,” meddai’r Cynghorydd Freda Salway, yr aelod dros addysg ar y Cyngor.
“Mae’n bosibl mai cychwyn tueddiad fydd hyn a chyda Prif Weinidog Cymru yn gwrthod ein cynnig diwethaf mae swyddogion wedi penderfynu mai’r unig opsiwn sydd ar gael bellach yw codi ysgol newydd.
“Bydd yr ysgol arfaethedig yn derbyn tri dosbarth y flwyddyn a meithrinfa, gan gynnig cyfleusterau modern ardderchog wedi’u hanelu at ymateb i’r galw arfaethedig am addysg cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â darparu ar gyfer disgyblion presennol Treganna a’r dosbarth dechreuol Cymraeg newydd ‘Ysgol Tan-yr-Eos’ yn Ysgol Gynradd Parc Ninian. Byddai’r cynnig hefyd yn golygu y bydd y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn ardal Treganna yn aros fel y mae.”
“Mae hon yn flaenoriaeth bennaf i ni. Mae buddiannau’r plant yn hollbwysig yn hyn i gyd ac rydw i wedi bod yn cydymdeimlo â rhieni Treganna sydd wedi wynebu cymaint o ansicrwydd cyhyd,” meddai arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman.
“Rhaid i ni nawr ddibynnu ar eu hamynedd am ychydig yn hirach wrth i ni fynd drwy’r broses o weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r gymuned. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddarbwyllo Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru i neilltuo’r arian y byddwn ei angen i wireddu’r cynnig hwn.”
“Dylai rhai materion fod yn drech na gwleidyddiaeth ac mae ad-drefnu ysgolion heb os nac oni bai yn un o’r rheiny. Nawr mae’n rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i roi’r ddarpariaeth addysg orau posibl i blant Treganna.”