Fe allai Eifion Lewis-Roberts, prop Sale Sharks a Chymru, fethu gweddill y tymor gydag anaf, cyhoeddwyd heddiw.

Fe allai’r dyn, 29 oed, o Ruthun wynebu cyfnod hir allan o’r gêm ar ôl anafu ei ben-glin yn ystod buddugoliaeth 21-17 y Siarcod dros Harlequins.

Roedd wedi gobeithio gwthio’i ffordd yn ôl i mewn i sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad ac yna Cwpan y Byd yn Seland Newydd mis Medi nesaf.

“Dyw anaf Eifion ddim yn edrych yn dda ac mae’n ymddangos fel ei fod am fod allan o’r gêm am weddill y tymor,” meddai hyfforddwr Sale Sharks, Mike Brewer, wrth bapur newydd y Manchester Evening News.

“Fe wnawn ni leihau’r chwyddo dros y ddwy neu dair wythnos nesaf ac wedyn fe fydd angen ail-adeiladu ei ben-glin.

“Fe fydd o’n sicr allan am gyfnod hir – tan ddiwedd mis Mawrth o leiaf.”